Cyrrhaeddodd saith llun restr fer cystadleuaeth ffotograffiaeth AHNE Llŷn 2017.
Cyflwynwyd y gwobrau yn Oriel Tonnau, Pwllheli.
Y llun buddugol oedd llun o Nanw Griffith o Langwnnadl yn edrych i lawr am Borth Colmon. Roedd y llun wedi ei dynnu gan Elen ei mam. Y wobr oedd taith cwch i Ynys Enlli.
Yn ail, daeth Eve Goodman gyda’i llun o gerrig ar draeth Porth y Nant a’i gwobr oedd tocyn anrheg Oriel Tonnau.
Yn gydradd drydydd daeth Phil Pownall gyda’i lun o’r machlud yn Nhrefor a John Delap gyda llun o’r aderyn bach Clochdar y Cerrrig ym Mhorth Neigwl. Eu gwobrau oedd tocynnau anrheg Caffi Meinir, Nant Gwrtheyrn.
Daeth tri llun arall yn agos i’r brig gan dderbyn cymeradwyaeth uchel. Y rhain oedd llun o Borth Neigwl gan Dawn Jones, Cynaeafu gan Mared Jones a Phorth Neigwl gan John Delap.
Diolch yn fawr i bawb am gystadlu ac i Gareth Jenkins am gynorthwyo gyda’r beirniadu.
Bydd y lluniau yn ymddangos yma yn fuan.