Grant Datblygu Cynaliadwy

Gronfa Datblygu Cynaliadwy

Sefydlwyd y Gronfa Datblygu Cynaliadwy (GDC) gan Lywodraeth Cymru yn 2001 fel rhan o’r gefnogaeth barhaus i dirluniau gwarchodedig (Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol) a datblygiad cynaliadwy. Prif nod y Gronfa yw cefnogi a hyrwyddo ffordd o fyw fwy cynaliadwy yn yr ardaloedd arbennig hyn.

Cynaliadwyedd

Mae'r Gronfa Datblygu Cynaliadwy yn darparu cymorth grant ar gyfer prosiectau amgylcheddol, economaidd a chymunedol arloesol sy'n datblygu a phrofi ffyrdd newydd o fyw yn fwy cynaliadwy oddi fewn yr AHNE.

Mae gan Ddatblygiad Cynaliadwy bedair thema:

  • Amgylcheddol
  • Economaidd
  • Diwylliannol
  • Cymdeithasol

Mae “Cynaliadwyedd” yn ymwneud â chael cydbwysedd rhwng gofynion amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd presennol â’r angen i warchod yr amgylchedd a buddiannau cenedlaethau'r dyfodol.

Grantiau a Chyfraddau Grantiau

Bydd y Gronfa Datblygu Cynaliadwy yn darparu grantiau prosiect, grantiau rheoli i gefnogi costau staff a grantiau datblygu er mwyn darparu catalydd ar gyfer gweithredu neu bartneriaethau newydd. Fel arfer bydd yr ariannu yn cael ei bennu rywle rhwng 50% a 75% o gyfanswm cost y prosiect ond mwy o bosib mewn achosion eithriadol.

Disgwylir i ymgeiswyr ddarparu o leiaf 25% o gyfanswm costau'r prosiect, naill ai o’u arian eu hunain neu gronfeydd grant eraill. Fe all swyddogion yr Uned AHNE ddarparu manylion am ffynonellau arian cyfatebol posib.

Rydym yn codi ymwybyddiaeth am brosiectau llwyddiannus yn rheolaidd ar ein cyfrif Instagram (@ahnellynaonb) ac yn ein newyddlen flynyddol..

Dyma flas ar rai prosiectau a gefnogwyd yn ystod y misoedd diwethaf....

  • Amgueddfa Forwrol Llŷn
  • Cae chwarae Llithfaen
  • Prosiect hen luniau Efailnewydd
  • Prosiect Angor Nefyn
  • Arolwg geifr Nant Gwrtheyrn
  • Cloddio yn Dinas Dinlle – Y. Archeolegol Gwynedd
  • Celf Hafod Eryri
  • Plas Carmel
  • Gŵyl R S Thomas
  • Meinciau Solar Abersoch
  • Grisiau Melin Daron
  • Caffi Hafod Ceiri
  • Antur Aelhaearn

Pa fath o brosiectau fydd yn cael eu cefnogi?
Mae'r Gronfa ar gael i gefnogi prosiectau sy'n dod â budd i'r AHNE wrth weithio i gwrdd ag amcanion y Gronfa Datblygu Cynaliadwy.

Rhoddir blaenoriaeth i brosiectau sy’n :

Ysbrydoli a chynnwys y gymuned leol...
Dylai eich prosiect gael cefnogaeth wirioneddol gan y gymuned neu gynnwys cymunedau o fewn yr AHNE. Dylai prosiectau sy'n cael eu hariannu gan y Gronfa Datblygu Cynaliadwy geisio dod â budd i'r gymuned leol, naill ai yn gymdeithasol, amgylcheddol, diwylliannol a/neu yn economaidd.

Cynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth o'r AHNE a Chynaliadwyedd...
Mae diwylliant, amgylchedd naturiol a hanes lleol yn chwarae rhan bwysig yn hunaniaeth arbennig Llŷn. Nod y Gronfa Datblygu Cynaliadwy yw hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth ehangach o'r nodweddion arbennig hyn a chodi ymwybyddiaeth o gynaliadwyedd ymysg pawb sy'n byw ac ymweld â'r ardal.

Pwy all wneud cais am arian ?

Fe all pob un o'r canlynol wneud cais:

  • Grwpiau Cymunedol, Gwirfoddol a Phartneriaeth
  • Cynghorau Cymuned
  • Awdurdodau Lleol
  • Y Sector Breifat (ar gyfer prosiectau sydd er budd ehangach y cyhoedd).
  • Unigolion (ar gyfer prosiectau sydd er budd ehangach y cyhoedd).

Sut y caiff penderfyniadau eu gwneud?

Cynghorir ymgeiswyr i drafod syniadau eu prosiect gyda'r swyddogion cyn cyflwyno cais.

Ar ôl cwblhau'r cais, cyflwynir y ffurflen i staff yr Uned AHNE ar bapur neu'n electronig, lle cânt eu cofrestru a’u gwirio - mewn rhai achosion efallai y bydd angen mwy o wybodaeth.

Yna bydd swyddogion yn asesu ceisiadau mewn perthynas â meini prawf y Gronfa (datblygwyd a chytunwyd ar y meini prawf hyn yn genedlaethol). Yna bydd ceisiadau yn cael eu trafod naill ai gan swyddogion trwy hawliau dirprwyedig neu'n cael eu cyflwyno gerbron cyfarfod y Panel Grantiau. Mae'r Panel Grantiau yn cyfarfod 3 neu 4 gwaith y flwyddyn yn ôl yr angen ac mae'n is-bwyllgor o brif Gyd-bwyllgor Ymgynghorol yr AHNE.

Gellir naill ai gefnogi cais yn llawn, cynnig swm llai o grant, neu wrthod y cais. Bydd cyfres o amodau'n cael eu gosod ar unrhyw gynnig grant a wneir.

2024 AHNE Llŷn
gwefan gan WiSS