Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) yn dirlun arbennig sydd, oherwydd ei gymeriad a’r harddwch eithriadol, yn deilwng o gael ei warchod er lles y genedl. Eu hunig bwrpas, yn ôl y ddeddfwriaeth yw cynnal a gwella harddwch naturiol yr ardal ddynodedig.

Mae AHNE yn debyg i Barciau Cenedlaethol ac wedi eu dynodi o dan yr un ddeddfwriaeth ond yn gyffredinol maent yn llai o ran arwynebedd ac nid oes iddynt ail pwrpas o hyrwyddo cyfleon i fwynhau a deall y rhinweddau arbennig. Am wybodaeth am Barciau Cenedlaethol Cymru gweler: croeso.cymru/cy/pethau-iw-gwneud/natur-thirweddau/parciau-cenedlaethol

Cyflwynodd Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 gyfrifoldebau newydd mewn perthynas ag Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, roedd y rhain yn cynnwys:

  • Cyfrifoldeb ar Awdurdodau Lleol perthnasol i baratoi a chyhoeddi cynllun rheoli ar gyfer yr ardal ddynodedig.
  • Cyfrifoldeb ar Awdurdodau perthnasol i “roi ystyriaeth” i bwrpas dynodi AHNE wrth weithredu eu cyfrifoldebau neu swyddogaethau.

Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru gyfrifoldeb cyffredinol am AHNE yn y cyd-destun cenedlaethol, ond cânt eu rheoli gan Awdurdodau Lleol gyda chefnogaeth y Cyd-bwyllgorau Ymgynghorol, cymunedau lleol a phartneriaethau. Am fwy o wybodaeth am Cyfoeth Naturiol Cymru gweler: naturalresources.wales/CY

2024 AHNE Llŷn
gwefan gan WiSS