Yma cewch wybodaeth am gylchdeithiau ar Benrhyn Llŷn ac ardaloedd cyfagos. Cofiwch mae llawer mwy o lwybrau a hawliau tramwy yn bodoli – gwelwch Map Gwynedd am fwy o wybodaeth neu defnyddiwch fap addas.
Drwy gefnogaeth gan Gronfa Cymunedau’r Arfordir mae Cyngor Gwynedd wedi datblygu cyfres o gylchdeithiau arfordirol sy’n amrywio rhwng 2 a 5 milltir. Mae’r cylchdeithiau yn rhoi cyfle i chi fwynhau’r Llwybr Arfordir, ond hefyd i werthfawrogi’r byd natur, treftadaeth, diwylliant a cyfleon antur sydd ar gael o fewn y pentrefi a threfi cyfagos. Mae llawer o’r teithiau hyn wedi eu lleoli ar Benrhyn Llŷn ac eraill yn ardaloedd Menai a Meirionydd. Am fwy o wybodaeth a mapiau gweler yma.
Mae’r teithiau, sydd wedi eu pecynnu mewn “App”, yn ffordd wych o fwynhau amgylchedd naturiol Llŷn drwy gerdded ar lwybrau cyhoeddus neu dir mynediad agored. Gyda’r “App” fe allwch darllen am hanes, natur a nodweddion diddorol ardal y daith wrth i chi gerdded. Y gobaith yw y bydd yr “App” hefyd yn lleihau’r galw am daflenni gwybodaeth ac arwyddion allan yn y maes.
Llawrlwythwch yr wybodaeth o’r wefan gyda Wi-Fi i’ch ffôn neu dabled ddigidol ymlaen llaw. Unwaith byddwch wedi llawrlwytho’r system, mae’n hawdd i’w ddefnyddio ac ni fydd angen signal ffôn arnoch wrth grwydro chwaith.
Mewn cydweithrediad gyda Partneriaeth Tirlun Llŷn mae’r Uned AHNE wedi llunio cyfres o deithiau digidol, wedi eu seilio ar Borthdinllaen, Nefyn, Pwllheli, Llanbedrog, Rhiw ac Aberdaron.
2021 AHNE Llŷn
gwefan gan WiSS